OW

1516
LOADING
Beth sy’n digwydd pan fydd oriel gelf yn colli ei man arddangos?
Oriel Wrecsam yw man creadigol Gogledd Ddwyrain Cymru. Yn 2015, symudodd yr oriel o’i chartref blaenorol yn Llyfrgell Wrecsam i siop/man gweithdy dros dro ym Marchnad y Bobl. Roedd hwn yn gyfnod o newid, wrth i OW baratoi i ddatblygu marchnad y dref yn Fan Celf a Diwylliannol newydd y sir.
Trwy ddatblygu rhaglen greadigol newydd yng nghalon cymunedau Wrecsam, yn ymateb i obeithion a diddordebau trigolion a gwneud yn fawr o weithgareddau cyfredol, daeth y dref ei hun yn oriel. Mae’r wefan hon yn rhannu canfyddiadau prosiect gwerthuso a ofynnodd sut y bu cymryd rhan ym mlwyddyn OW oddi ar ei safle o werth i bobl.

Gweithdai Arlunio






Dyma oedd gwneud celf yn ei ystyr ehangaf: tynnu lluniau ar ddail a’u gweu nhw’n siapiau, gwneud lluniau graffit ar balmantau, gwneud celf ddarfodedig. Tynnu ar yr amgylchedd, tynnu lluniau mewn lle gwag.
I lawer o bobl, gall y syniad o ddod i ‘wneud celf’ fod yn hynod o anodd. Mae plant yn penderfynu’n rhyfeddol o fuan a ydyn nhw’n ‘dda’ am arlunio neu beidio, a gall diffyg hyder creadigrwydd cynnar barhau i mewn i’ch oedolaeth. Dan arweiniad Tim Pugh, yr artist amgylcheddol, nod y cwrs hwn oedd ymestyn y syniad o arlunio y tu hwnt i bapur a phensil. Cafodd y grŵp ei annog i fynd tu allan a chwarae o gwmpas gyda deunyddiau naturiol.

Roedd gan nifer o gyfranogion broblemau iechyd meddwl neu gorfforol, a dywedasant fod defnyddio gwrthrychau roeddynt yn dod o hyd iddynt, fel cerrig a dail, wedi bod yn ffordd werthfawr o leddfu’r pwysau. Roedd y cwrs yn caniatáu iddynt wyro eu sylw oddi wrth syniadau traddodiadol ‘gallu’ neu ‘dalent’, ac fe ddysgodd sgiliau drafftsmonaeth a chyfansoddi iddynt mewn ffyrdd llai brawychus, a helpu iddynt ddarganfod potensial creadigol yn y byd naturiol.
“Dywedodd Tim, rhowch sialc arnyn nhw. Gwych! ’Chi’n gwybod, fe ddaeth hynny â rhywbeth nôl o flynyddoedd yn ôl. Fe gewch chi. Fe gewch chi. Rydych chi’n meddwl, oherwydd eich bod yn oedolyn, na chewch chi.”
“Rydych chi’n cael caniatâd i fod yn ddigymell, mewn ffordd na chewch chi mewn dosbarth. Fy ngwaith i yw gweld cyfleoedd i’r dysgwyr, yr artistiaid, i gymryd rhan. [...] gan ddymchwel y gred bod rhaid ichi gael eich gwaith mewn oriel, lle mae’n rhaid ei werthu mewn fformat traddodiadol gyda ffrâm. Gallwch ddweud, edrychwch, does dim rhaid i gelf fod yn gynnyrch sy’n gallu para am byth. Gall fod yn foment.”
Tim Pugh, Artist Amgylcheddol

Teithiau Gwneud

Ar ôl y Cwrs Arlunio, roedd ar y cyfranogion eisiau mynd â’u gwaith ymhellach. Esblygodd hyn yn brosiect Teithiau Gwneud, a gymerodd y grŵp ar daith greadigol ar draws y sir. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal prosiect ar raddfa lai o gwmpas Wrecsam, ond ymestynnodd OW ef yn gyfres o deithiau dydd. I lawer, roedd hwn yn gyfle prin i gysylltu â phobl eraill, i adael y dref ac archwilio lleoedd newydd, ac agor eu synhwyrau i’r amgylchedd.

Crefftwyr Oriel






The Make Trips ran in parallel with a series of regular artistic workshops, self-led but supported by Oriel Wrecsam.
Gan alw eu hunain yn Crefftwyr Oriel, dechreuodd y grŵp drefnu eu prosiectau creadigol eu hunain yn y gymuned: yn amrywio o wneud taith tylwyth teg lleol i wneud modelau brawychus ar gyfer disgo Calan Gaeaf. Yn ein trafodaethau, siaradodd yr aelodau am werth y prosiectau hyn wrth eu helpu i ‘ddysgu sgiliau newydd [a] chwrdd â phobl newydd’.

Er bod y prosiectau hyn wedi dechrau mewn lleoliadau cymunedol allanol, ar ôl ychydig fisoedd, dechreuodd nifer o gyfranogion deimlo fel llysgenhadon dros OW, gan hyd yn oed wirfoddoli i ymweld â’r oriel i helpu codi ymwybyddiaeth am brosiectau eraill.
“Os nad oedd gen i ddim byd [creadigol] buaswn i’n sgrechian. Buaswn i’n eistedd adref, buaswn wir, yn gwneud dim.”
“Dydyn nhw ddim yn eich barnu chi fan hyn, nac ydyn? Ddim yn barnu neb, gallwch chi fod eich person eich hun. Mae hynny’n beth da.”

Jonny Hannah

Yn rhan o’r broses o symud o’r llyfrgell i Farchnad y Bobl, gofynnodd OW i Jonny Hannah, yr artist gweledol, greu dyluniad ar gyfer tu blaen eu siop newydd, wedi’i ysbrydoli gan dirlun a hanes Wrecsam. Y nod oedd tynnu sylw at y siop, drwy wneud blaen y siop ei hun yn arddangosfa.
Felly, roedd tryloywder y gwaith celf ffenestri yn ffordd o bylu’r ffiniau rhwng y tu mewn a’r tu allan: rhwng yr oriel a’r gymuned. Ond er bod gwaith allgymorth OW yn llwyddo i ymgysylltu â phobl mewn gweithgareddau celf ystyrlon, nid oedd hyn yn annog nifer fawr o’r cyfranogion hynny i ymweld â’r oriel ei hun.

O ganlyniad, codwyd nifer o gwestiynau...
  • Beth y mae’n ei olygu i bresenoldeb canol dref oriel fod yn siop, y tu fewn i ‘Farchnad y Bobl’ a thu allan iddi?
  • Sut allwch chi annog gwahanol bobl i groesi’r trothwy?
  • Beth yw’r cysylltiad rhwng celf, cymuned a menter?

Dylunwyr-gwneuthurwyr






Fel arfer, fe gewch chi gyllid, cynnal rhai sesiynau, yna fe ddaw’r cyllid i ben ac mae’n rhaid ichi aros i gael rhagor. Yma, roedd gan OW ddiddordeb mewn menter gymdeithasol: mewn gwneud pethau’n gynaliadwy.
Yn dilyn cwrs gwneud ffelt blaenorol gydag elusen iechyd meddwl Advance Brighter Futures (ABF), a gynhaliwyd ym Mhlas Madog, ganed y prosiect Dylunwyr-Gwneuthurwyr. Cafodd hyn ei sbarduno gan yr angen i ddod â safle’r oriel a’i waith ymgysylltu ehangach at ei gilydd.

Trodd y prosiect hwn grefftwyr amatur yn artistiaid proffesiynol. Gan ddefnyddio ystafell gweithdy OW, gweithiodd tîm o gyfranogion gydag ABF a Rhi Moxon, artist lleol, i droi eu darluniau a brintiwyd ar sgriniau yn ddyluniadau ceramig cydweithredol. Drwy eu gwerthu yn Siop//SHOP drws nesaf, y nod oedd denu aelodau’r gymuned i’r adeilad rŵan gan hefyd cynhyrchu arian ar gyfer prosiectau’r dyfodol.
“Dwi’n credu bod pawb yma wedi cael problemau iechyd meddwl. Ac rwy’n meddwl bod creadigrwydd ac iechyd meddwl yn mynd law yn llaw. [..] Mae’n cyfoethogi bywydau pobl. Mae’n rhywbeth mor bwysig, mae’n faeth i’r enaid.”
“Er bod proses yn bwysig, bwriad hwn hefyd oedd dathlu’r ymdeimlad o gyrhaeddiad a gyfyd o wneud rhywbeth sy’n mynd i gael ei werthu. Mae’n falchder ar lefel uwch.”
Jo Marsh, Outreach Officer, OW

ArtVend

Lansiwyd prosiect ArtVend ychydig cyn y symud mawr, ac roedd yn ffordd arall o archwilio’r cysylltiadau rhwng celf a menter. Mae OW yn comisiynu artistiaid proffesiynol i greu cyfres o ddarnau o waith celf bach, y gellir eu prynu am £1 o beiriannau gwerthu o gwmpas y dref. Fel oriel oddi ar y safle, roedd hon yn ffordd i OW ddemocrateiddio prynu celf ac i ddod â gwaith celf i mewn i’r gymuned. Yn ogystal â chymryd peiriannau i ddigwyddiadau, cynhaliodd OW weithdai mewn ysgolion lle gwnaeth disgyblion eu darnau bychain eu hunain.
“Mae’r peiriant gwerthu’n gwneud y broses o brynu’n gwbl anfygythiol. Mae’n eich galluogi i gyrraedd pobl na fyddent byth bythoedd yn breuddwydio cerdded i mewn i fan oriel gwyn. Nid oes unrhyw un yn gwylio. Nid oes raid ichi gymryd y camau hynny. Does ond raid ichi roi eich punt i mewn.”
Jo Marsh, Outreach Officer, OW
Cliriodd ArtVend y ffordd at gainc newydd o waith a oedd yn archwilio’r berthynas rhwng celf, symudedd, a lle...

Mannau’n Symud/


Lleoedd ar y Ffin

Cwt y Bugail

Cariodd y ffocws hwn ar bensaernïaeth symudol ymlaen i un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol OW. Gan weithio gyda Phrosiect STARS Partneriaeth Parc Caia (prosiect ymgysylltu â’r gymuned leol i bobl ifanc agored i niwed). Gofynnod OW i Antonia Dewhurst adeiladu oriel/man perfformio symudol.

Gan ddefnyddio defnyddiau naturiol wedi’u hadfer, mae Cwt y Bugail wedi’i seilio ar ddyluniad Cymreig go iawn a fydd, gydag amser, yn cael ei dynnu drwy’r dref i gartref lled-barhaol ym Marchnad y Bobl.
“Y syniad yw annog y criw yma i gymryd rhan, i roi diddordeb iddynt mewn celf, i roi diddordeb iddynt mewn gwaith coed, peirianneg. Mae e wedi magu eu hyder, wedi helpu meithrin sgiliau cymdeithasol, [...] Ei ddiben yw ceisio rhoi trefn arferol iddynt a’u hannog yn ôl i mewn i addysg, hyfforddiant, gwaith, neu jyst cael profiadau gwrthdyniadol sy’n eu helpu i symud ymlaen.”
Kristian Losztyn, Mentor, Caia Park Partnership Ltd.
“Rwy’n dioddef ADHD, sgitsoffrenia, iselder, gorbryder. Mae’n fy helpu oherwydd os ydw i’n aros yn y tŷ drwy’r amser, does dim byd i edrych ymlaen ato. Bydda’i jyst yn gorfeddwl am bethau. Felly, mae’n rheswm i mi adael y tŷ, ac yn magu fy hyder hefyd. Ac ers i mi ddechrau dod yma rydw i wedi cwrdd â phobl eraill, ac wedi magu perthynas gyda nhw rŵan, ffrindiau da, a phobl eraill i weithio gyda nhw.”

“Mae’n fy helpu i ffocysu ar beth ‘dwi ei eisiau mewn bywyd. [...] Dwi’n dangos y ffotograffau i bobl. Mae pawb sy’n fy adnabod i yn dod lawr yma, maen nhw wastad yn gofyn beth wyt ti wedi’i wneud heddiw, a dwi’n dweud rydyn ni wedi gwneud hyn yn y Cwt.”

“Ces fy rhyddhau o’r carchar dydd Gwener. Dwi ddim yn mynd nôl.[...] Dwi’n falch i fod yma ac yn helpu, achos mae e wedi rhoi rhywbeth i mi ei wneud cyn gynted ag y dois i allan.”
Er bod cyfranogion yn gweld hwn yn bennaf fel prosiect STARS, yn rhan o gyfres reolaidd o weithdai Parc Caia i gael pobl ifanc i mewn i addysg neu waith, dechreuasant hefyd gysylltu ag OW - rhywbeth nad oedd y rhan fwyaf ohonynt erioed wedi’i wneud o’r blaen. Dechreuodd un o’r cyfranogion alw heibio yn rheolaidd yn yr oriel, ac awgrymodd un arall y dylid ychwanegu OW wedi’i dorri â laser uwchben drws y Cwt.
“Dim ond trwy berthnasau y cyfyd perchenogaeth. I mi, dyna un o’r llwyddiannau mwyaf - ein hymdrech i ddod â phobl i mewn, i bobl deimlo’u bod yn rhan o rywbeth.”
Jo Marsh, Outreach Officer, OW

Arloeswyr



Gan barhau â’r thema anheddiad dros dro, ceisiodd prosiect Arloeswyr OW gwestiynu ystyr ‘cartref’. Gweithiodd Sophie McKeand, bardd lleol (a bardd pobl ifanc Cymru), gyda thair o ferched ifanc o gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr Wrecsam.

Trwy dramwyo strydoedd a chaffis y dref, ailenwi mannau cyhoeddus ac ymateb yn greadigol i le, ysgrifennodd Arloeswyr OW eu fersiwn eu hunain o Wrecsam: ‘dinas a wnaed â llaw’ .

Blodeuwriaeth Creadigol






Trwy gydol eu blwyddyn oddi ar y safle, mae OW wedi gweithio’n galed i ymateb i anghenion Wrecsam, gan wneud i bethau digwydd roedd ar gymunedau ac artistiaid wir eisiau eu gweld.
Yn dilyn y prosiect Teithiau Gwneud, cysylltodd un o Grefftwyr Oriel â’u coleg lleol i holi ynghylch gwneud cymhwyster mewn blodeuwriaeth. Ond, ar ôl mynd am gyfweliad, gan fod ganddynt anabledd, teimlai’r unigolyn nad oedd arnynt awydd llymder cwrs swyddogol. Gweithiodd OW gyda Chymunedau yn Gyntaf a dwy siop flodau lleol i drefnu eu cyfres eu hunain o weithdai.
“Roeddem mor siomedig, ond bu inni gasglu ein hadnoddau at ei gilydd a sylweddoli y gallwn ni ei gynnal ein hunain.”
Laura Dickenson, Floristry Artist
Denodd y cwrs hwn bobl o amrywiaeth o gefndiroedd. Roedd rhai wedi cymryd rhan o’r blaen ym mhrosiectau eraill OW, ond dyma oedd tro cyntaf pobl eraill. Gan ddefnyddio gwaith Frida Kahlo yn ysbrydoliaeth, roedd nifer o bobl wedi dweud mai gweithgareddau ‘crefft’ fel blodeuwriaeth oedd wedi’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill y celfyddydau mewn ffyrdd anfygythiol.
Mae o wedi bod yn agoriad llygad. Rydw i wedi dechrau gwneud crefftau nawr, ac rwy’n hunangyflogedig. Rydw i’n gwneud bob math: crefft poteli, pwytho, cynnyrch i’r bath, gwneud cacennau a bara i’w gwerthu. Roeddwn i’n meddwl, w, galla’i wneud hyn a’r llall.
Mae o i gyd yn greadigol. [...] Rydym ni’n cyflwyno hynny i mewn i’n bywydau, yn dydyn? Ychydig bach o gelf. Ac efallai na fyddem ni erioed wedi cyffwrdd yn hynny, heblaw ein bod wedi dod fan hyn.

'The Makeshift'






The Makeshift came from a desire to open up OW’s workshop space to anyone who wanted to use it. This was an exercise in hospitality.
Nod prosiect ‘The Makeshift’ oedd cynnig lle i bobl ddod at ei gilydd a bod yn greadigol mewn ffyrdd gwahanol. Cafodd ei hysbysebu fel ‘cyfarfod wythnosol anffurfiol’ yn hytrach na ‘dosbarth celf’ traddodiadol, cynigodd y gweithdai amrywiaeth o weithgareddau – o fraslunio i bwytho i wneud bocsys adar – y gallai cyfranogion ddod iddynt os oeddynt yn apelio. Fel arall, roedd croeso iddynt ddod â’u gwaith eu hunain gyda nhw, a manteisio ar y gweithdy rhad ac am ddim (yn ogystal â’r te a’r cacennau lleol!).
“Yn y sesiwn cyntaf, roeddwn i’n poeni braidd na fyddai unrhyw un yn dod, neu a fydden i’n eistedd yna ar ben fy hun? Yna cerddodd y pedwar person cyntaf drwy’r drws, nad oeddwn wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Rydych chi’n dod i mewn, ac ymlacio. A rhan fawr ohono yw jyst bod yn neis i bobl.”
Jo Marsh, Outreach Officer, OW
Adfyfyriodd y cyfranogion ar y gwahaniaeth rhwng amgylchedd di-straen ‘The Makeshift’ ac awyrgylch orielau traddodiadol. Er bod tua hanner y grŵp wedi astudio celf gain yn y brifysgol, roeddynt yn aml yn teimlo’n rhwystredig gan y ffordd roedd y mannau mwll â waliau gwyn yn cyfyngu ar eu potensial i feddwl yn greadigol:
“Peidiwch â chyffwrdd, peidiwch ag anadlu, peidiwch â symud, peidiwch â gwneud dim. Dydych chi ddim wir i fod yma, ond rydym ni’n eich gadael chi i mewn am ein bod yn teimlo’n hael.”
Trwy ‘The Makeshift’, daeth OW yn rhywle lle roeddynt yn cael rhoi cynnig ar wahanol ddefnyddiau a syniadau. Siaradodd y cyfranogion am y ffodd y mae ‘celf’ yn aml yn dod law yn llaw â theimladau o ‘bwysau’ a ‘chyfrifoldeb’, gan gelu’r awydd i greu. Mewn llawer o ffyrdd, roedd ‘The Makeshift’ yn enghraifft gwych o’r hyn roedd OW yn ceisio’i wneud yn ystod eu blwyddyn oddi ar y safle. Cysylltu pobl o wahanol gefndiroedd; llacio’r syniadau caeth am yr hyn sy’n ‘cyfrif’ fel celf; annog pobl i ddod at ei gilydd mewn ystafell a gwneud pethau. Eu gwahodd i feddwl am gelf fel math o chwarae. Dyna oedd nod ‘The Makeshift’.
“I mi, roedd [the Makeshift] yn ffordd o wneud rhywbeth creadigol heb bwysau gorfod bod yn artist. Oherwydd mae yna bob math o broblemau ynghlwm wrth hynny, yn seicolegol. Doedd dim ots os [oedd beth roeddem yn ei wneud] yn sothach. [...] Roeddwn yn cael caniatâd i fod yn greadigol.”

“Mae Celf yn derm llwythog a chanddo gyfrifoldeb. Yn gyffredinol, mae bod yn ‘greadigol’ jyst yn hwyl.”

“Pan ddaethom i ‘The Makeshift’ am y tro cyntaf, dyna oedd y tro cyntaf i mi wneud unrhyw beth mewn amser hir iawn. Fe roddodd rhyddid mawr i mi.”

Dosbarthiadau a Gweithdai

Arddangosfeydd

Wrecsam Agored yn parhau i roi cyfle i artistiaid lleol sy’n gweithio gydag unrhyw gyfrwng i arddangos eu gwaith ochr yn ochr ag artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
Wedi’u lleoli yng nghartref dros dro OW, SIOP//SHOP ar Heol Gaer, mae Gwneuthurwr mewn Ffocws a Gwneuthurwr Printiau mewn Ffocws yn cyflwyno cyfres newidiol o waith gan rai o artistiaid gorau’r DU. Gan amrywio o sgarffiau i lamplenni, ac o flancedi i emwaith, mae’r arddangosfeydd yn gwthio’r ffin rhwng celf, dylunio a defnyddioldeb. Maent yn cyfuno cyflwyniadau ar ddulliau gweithio artistiaid gyda’r cyfle i brynu eu cynnyrch.


Y Lladin am ‘risg’ neu ‘berygl’ yw Periclo a dyma yw platfform OW ar gyfer arbrawf mewn celf gyfoes. Wedi’i guradu gan James Harper a gan ddefnyddio man manwerthu pwrpasol fel oriel dros dro, mae Periclo yn cynnwys cyfres o arddangosiadau heriol gan artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfa.

Prosiectau Partner